Saturday 4 May 2013


Taith Oklahoma
                    Mae’n brynhawn ddydd Gwener a haul Oklahoma yn gwennu’n braf arnom, a rwy’n trysori’r cyfle o gael brynhawn rhydd i edrych nol ar fy mhedwar diwrnod cyntaf ers glanio yma tra’n edrych ymlaen yn arw at y diwrnodau nesaf i ddod!  Bwriad y blog yma yw rhoi blas ar ein antiriaethau hyd yn hyn yng nghalon y sefydliad yr Indiaid brodorol yn  ‘Talequah’, Oklahoma a dysgu am ddiwylliant ac iaith unigryw y llwyth y ‘Cherokee’ yma yn yr Unol Daleithiau.
                      Dwi wedi ymddiddori yn niwylliant yr Indiaid brodorol ers amser, ond dyma gyfle hollol unigryw a gwerthfawr a oedd yn fy ngalluogi i hedfan más yma a treulio amser yng nghwmni y brodorion i wir ddysgu am eu hanes, eu diwylliant a’u hiaith hynafol.
                   Fy hoff ffilm yn y byd i gyd pan yn blentyn oedd ‘Pocohontas’ a mi oeddwn wastad wedi breuddwydio teithio allan I’w chwrdd!  Mi oedd y gwrthgyferbyniad rhwng yr Inidaid brodorol a’r dynion gwyn hyd yn oed yn amlwg i blant mewn ffilm Disney. Mi oeddwn wastad yn ffeindio fy hun yn cyd-ymdeimlo gyda’r brodorion, a’n awchu am weld eu tiroedd hyfryd, eu caneuon a’u ffyrdd ysbrydol o fyw, eu dillad naturiol a’u perthynas agos at eu cymunedoedd a natur.
                 Fe ddarllennais hefyd lyfr Eurig Gwyn ‘I Ble’r aeth Haul y Bore?’ yn yr Ysgol Uwchradd oedd yn sôn am ymdiniaeth y Dynion gwyn tuag at lwyth y Navaho’s.  Llyfr gwych yr wyf yn ei argymell, a wnaeth bwydo fy nychymyg yn bellach.  Fe danlinellodd gwirionedd yr ymdriniaeth creulon oedd yr Indiaid yn gorfod dioddef yn fwy nag ‘Pocohontas’ a llwyddodd i ddod a realati y sefyllfa yn fyw.
                  Dwi hefyd wrthi’n astudio modiwl ‘Patagonia’ yn y Brifysgol, a’n cael y cyfle i astudio am lwythi yr Indiad brodorol a oedd y bobl gyntaf i gerdded tiroedd De America.  Dwi wrthi’n darllen nofel hanesyddol ‘Tierra del fuego’ gan Sylvia Iparraguire yn sôn am hanes brodor o’r enw Jemmy Button, a sut aethpwyd ag ef a tri brodor arall o lwyth yr ‘Yámana’ yn ôl i Brydain ar gyfer eu dysgu y ffyrdd ‘iawn’ o fyw, sut i wisgo, sut i siarad a sut i ‘ymddwyn’ mewn cymdeithas.
              Anghredadwy oedd agwedd snobyddlyd y dyn gwyn ond dyma oedd realiti trist ac anghyfiawn brodorion ar draws y byd.  Ar draws hanes, cafwyd eu cipio, eu treisio, eu cam-drin a’u  lladd.  Mae ganddynt ddiwylliant sydd mor hên a gwerthfawr, roeddwn am neidio at y cyfle i ymweld a un llwyth brodorol a’r gobaith fyddai gweld sut mae iaith y ‘Cherokee’ yn cael ei ddysgu a sut mae’n goroesi i’w gymharu gyda’r Gymraeg a uno dwy ddiwylliant gyda’r un gobaith o edrych ar ôl ein Mamiaeth a sicrhau ei pharhâd.
Dydd Mawrth Ebrill 2ail
                Felly, dyma’r antur yn dechrau! 5:30am yn sefyll yn yr oerfel wrth ymyl fy nrws yn Abertawe a mae dyn y tacsi yn hwyr yn barod!  Teimlo ryddhad wedyn wrth weld tacsi yn cyrraedd a chael fy nghyfarch gyda Albanwr! Mae’n rhaid i fi ddweud mae dyma’r gynnhara’ dwi erioed wedi sgwrsio am wleidyddiaeth.  Doeddwn bron ddim am adael wrth sôn am y gobaith o annibyniaeth yr Alban, ond gadael oedd rhaid, a dal bws pump awr i Lundain.
                   Ar ôl gadael ein bagiau yn y maes awyr, dyma ni yn cerdded ar yr Awyren ‘United Airlines’ yn barod i ddechrau siwrnau 10 awr.  Mae wastad yn gwneud i mi chwerthin pan ei fod yn ddiwgwyliedig i ‘r teithwyr ‘economi’ cerdded drwy bloc y pobl busnes, a hwythau yn mwynhau gyda’u cadeiriau esmwyth a’u bwcedi drudfawr o ‘champagne’.  Ond dyma ni, yn mynd i eistedd yng nghwmni ein cyd- werin bobl, heb unrhyw le i ein coesau a’r plant yn sgrechian yn y blaen.  Ta waeth am hyn, cyffrous oeddem i gychwyn y daith!
                            Mi oedd y daith yn un hir iawn a dyma ni yn glanio  yn Maes awyr Houston, Tecsas.  Ychydig yn flinedig a wedi drysu gyda’r newid amser cyn mynd ati i ddal awyren arall i Tulsa yn Oklahoma.  Diddorol oedd gweld gymaint o gyfieithadau Sbaeneg ar yr arwyddion yn Maes awyr Texas a chael gweld gymaint o bobl Sbaeneg  oedd yn gweithio yno.  Cefais deimlad yn syth o densiwn rhwng yr heddlu gwyn Americanaidd a’r gweithwyr Sbaeneg. Mae’n bwysig nodi hefyd bod rhan fwyaf o bobl yn gyflym i feirniadu mewnfudwyr heb sylweddoli cymaint maent yn cyfoethogi’r economi.   Tybiaf bydd yr Iaith Sbaeneg yn un swyddogol yn y dyfodol yn yr Unol Daleithiau, neu o leia yn y taleithiau deheuol! Mi oeddwn yn teimlo’n reit gartrefol gyda’r awyrgylch Sbaeneg o gofio am fy mlwyddyn tramor y flwyddyn diwethaf.
                            Doeddwn ddim cweit yn barod i’r antur o’n blaen wrth mynd trwy’r tollfeydd diogelwch.  Ro’n i eisoes wedi teithio i America bedair mlynnedd yn ôl i Efrog Newydd, felly mi oeddwn wedi arfer a’r mesuroedd diogelwch llym.  Mae’n ddiwgyliedig i chi roi printiau bysedd a cael eich llun wedi tynnu.  Dyma’r Sheriff wrth y desg yn cwestiynu’n syth pam oeddwn yn dod mewn i’r Unol Daleithiau? a dyma fi yn ateb ein bod yma ar ‘Gyfnewidiaeth diwylliannol’ a gwyddem o’r eiliad yna, wrth iddo dalgrychu arnaf, nad oedd yn ryw hoff o fy ateb.  Pwysodd ymlaen yn disgwyl mwy o esboniad.  ‘A faint ohonoch chi sydd ar y gyfnewidiaeth yma?’’ Mynnodd. Atebais fod pump ohonom.  Cyn ddweud mwy, cymerodd sylw ei ffrind a chredaf iddo mwmian rhywbeth yn ei glust.  Dywedodd hwnnw wrthaf fod y peiriant printiau bysedd wedi torri a bod angen i fi ei ddilyn i’r cefn.  Teimlais ychydig yn gymysglyd pan gerddais wrth ei ochr wrth i ni basio tua chwech peiriant rhydd.  Aeth a fi mewn i ystafell yn llawn cadeririau gyda rhes o’r heddlu yn eistedd o flaen desg yn teipio are eu cyfrifiaduron, ateb ffonau a’n holi teithwyr.  Eisteddais yno gan aros iddynt galw fy enw. Yn y cyfamser mi oedd y heddlu yn dadlau ymysg eu gilydd ar gyfer cwesitynu beth yw cyfieithad y term Sbaeneg o ‘Snorclo’.  Anffodus gennyf weud na ddysgais yr air hynny ar fy mlwyddyn tramor felly amhosib oedd i helpu fy ffrindiau newydd.  Arhosais yno yn amyneddgar tan i’r un o heddlu galw fy enw (neu o leia ei fersiwn yntau o fy enw) gas gen i fel mae pobl yn ynghanu fy enw yn anghywir ond yn enwedig pan maent bron yn ei ddweud yn fygythiol.  Camais ato yn barod i ateb ei ymgynghorion.  Gofynnodd yr un cwestiwn a’i ffrind ac atebais yr un fath.  Syllodd arnaf.’Pa fath o gyfnewidiaeth ddiwylliannol?’’  Dywedais ein bod yno i ddysgu am iaith a diwylliant yr Indiaid brodorol.  Yn amlwg, doedd ddim yn fy nghredu.  ‘Pam gwneud hynny?’  Dywedias ei fod yn ddiddorol a fod gennym ddiddordeb.  Yn amlwg, doeddwn ddim yn rhannu’r un barn.  ‘Ble byddwch chi’n aros?’’  Atebais yn y Brifysgol.  Ail-adroddoddd fy ateb fel petai y peth mwyaf anghredadwy.  ‘Dangosa dy Visa.’  Dangosais fy ffurflen.  Syllodd ar hwnnw ac edrych ar fy mhasbort.  ‘Rwyt wedi bod yma o’r blaen.’  Eboniais fy mod wedi eisioes wedi bod i Efrog Newydd.  Fe gymerodd y sgwrs yma oes.  ‘Faint o amser arhosais bryd hynny?’  ‘Faint o amser ti’n aros  y tro yma?’ ‘Dyw Oklahoma ddim yn le dwristiaeth!’ ‘Ond pam dod allan i ddysgu am yr Indidaid brodorol?’  Esboniais am yr hyn o’n i wedi ymchwilio am Iaith y Cherokee ac esbonio fod y Brifysgol yn cynnig rhaglen pythefnos o weithgareddau.  Erbyn hyn, roedd yna ddau arall o’i gyfeillion wedi dod i ymuno a ni.  Mi oeddynt i gyd yn gweld y stori yn anghredadwy ond o’r diwedd gan sylwi fo mod yn wir yn hedfan i Talequah mewn tair awr ac yn dychwelyd mewn pythefnos, fe adawodd i mi fynd.
               Dyna’r gipolwg cyntaf o agwedd rhai pobl profais tuag at ddiwylliant y bobl Cherokee ‘Ani jikal’I’.  Roeddwn yn dechrau poeni erbyn y diwedd a’n colli amynnedd.  Efallai, byddai’n gwneud lles iddo ef a’i gyfeillion mynd ar raglen fel yma ar gyfer trio agor eu meddyliau.
            Es i ymlaen i gamu mewn  i beiriant newydd ar ôl gadael yr holl holi, lle oedd yna sgrin yn sganio eich holl perfeddion i ddatgelu unrhyw cyffuriau mewnol yn y corff.  Fe wanethom dal yr ail awyren i Oklahoma ar ôl llawr o ddileu gan oedd nifer o storm darannau yn yr awyr.  Bydden i byth yn argymell dal dau awyren mewn diwrnod yn enwedig yr ail yng nghanol storm tarannau.  Mi oedd yn brofiad swnllyd a llachar!
              Ryddhad enfawr oedd cyrraedd Maes awyr Tulsa a chwrdd a Dr. Lesley.Hannah o Brifysgol Northeastern Oklahoma, neu ‘Les’ fel oedd yn cael ei gyflwyno i ni.  Dyn tal, yn amlwg o drás Indiadd ac acen gwych Oklahoma.  Mi oedd yn berson cynnes a chroesawgar, yn wahanol iawn i’n ffrndiau nol yn Tecsas.  Roeddwn i gyd mor flinedig, a’n methu aros i weld gwelyau.  Llwythodd ein bagiau mewn i’w gar enfawr a cychwynnom y daith awr o hyd o Tulsa i Talequah.  Adroddodd storiau ar hyd y ffordd o’r Indiaid brodorol, o Oklahoma ei hun, o bosibiliadau i ni brofi corwyntoedd a stormydd, y Brifysgol a’i drip diweddar i Affrica.
          Trieni oedd bod y daith i gyd mewn tywyllwch felly rhaid oedd aros tan y bore i weld y Wlad yma.  Cyrhaeddom y Brifysgol gan gwrdd a myfyriwr caredig iawn a dangosodd ni i’n ystafelloedd.  Esboniodd Les nad oedd brys yn y bore a i ni ei gwrdd ar ôl cinio o achos ein bod ni gyd yn edrych wedi blino cymaint! Cyflwynodd y term ‘Amser Indiaidd’ i ni a dyna beth yr ydym yn dilyn yma sy’n f’atgoffia i ‘Amster Cataleneg’ ac ‘Amser gwyddeleg’ hynny yw- agwedd hamddennol at amser sy’n golygu troi lan yn hwyr bron ar bob achlysur.  Ond, rydym wedi cyrraedd o’r diwedd!  Siwmai Talequah! neu fel yr ydym eisioes wedi dysgu - ‘Osiyo Tali’quah!’
Dydd Mercher Ebrill 3ydd
             Doeddwn ddim wedi dihino tan amser cinio, cymheron ni gyd gawodydd a mynd yn syth i ginio.  Wel wel, bwyd Americanaidd!  Siwgr a braster!  Teimlaf fel fy mod wedi rhoi llawer o bwysau ymlaen yn barod!  Y gwrthwyneb i’r deiet yng Nghatalwnia! Profais diod o’r enw ‘Rootbeer’ – mae’r diod yma yn deillio odd wrth yr Indiaid brodorol.   A mae yna ddigonedd o ddewis yn  y ffreutur!
             Mae’r campws yn un fawr ac adeiladau’r Brifysgol yn fy atgoffa o ‘Hogwarts.’  Fe aeth Les a ni ar daith o gwympas y campws  gan ddangos yr adeiladau gwahanol.  Mae pawb wedi bod yn hynod o gyfeillgar hyd yn hyn.  Maent yn clywed ein acenion ac yn gofyn yn syth lle’r ydym yn dod a phob un yn ein coresawu yma.  Rydych yn medru gweld hwythau yn gwenu pan yr ydych yn esbonio ein bod wedi dod i ddysgu am eu iaith a’u diwylliant.  Maent yn amlwg yn browd iawn o’u hunaniaeth!
             Fe aethon i fyny i’r adeilad addysg a gweld ystafelloedd ‘dysgu’ar gyfer myfyrwyr a phlant ysgol.  Mae’r brifysgol yn cynnig cymorth gwych i bobl sy’n gweld addysg yn annodd.  Fe ddysgom fod Ysgolion Gynradd ‘pontio’ i gael lle fod ond Cherokee yn cael eu siarad trwy’r amser.  Rydym fod i ymweld a’r ysgol Ddydd Mawrth nesa’ felly fe wnai siwr o nodi ein profiadau. Bwriad yr adeilad addysg yw help y plant Cherokee derbyn cymorth gyda’u sgiliau iethyddol.  Mae yna gymaint o fantesision ar gyfer dwyieithrywdd a mae’n wych i’w gweld yn cael eu cefnogi yma.  Rydym wedi dechrau cael flas ar y bywyd yma a felly byddwn ni parhau fory, ar ôl cael rhagor o gwsg!
Dydd Iau Ebrill 4ydd
                     Ar ôl llenwi ein boliau gyda brecwast, dyma ni yn mynd i sywddfa y darluthwyr Cherokee.  Fe gawsom gwrdd â Harry, Brad a Wyman.  Roeddem yn gallu clywed ychydig o Cherokee yn cael ei siarad a’n medru sylwi ar yr acenion gwahanol.  Mae’n swnio’n feddal iawn a rhai o’r synnau yn debyg iawn i’r Gymraeg.  Bydd yn rhaid i fi ddarllen llyfr sy’n sôn am ‘Tywysog Madog’, Cymro a oedd wedi gwneud y daith yma a wedi sylwi ar debygrwydd rhwng y Gymraeg a’r Cherokee. Cawsom ddysgu mae dyn o’r enw ‘Sequoyah’ a oedd y berson cyntaf i ysgrifennu y wyddor ‘Cherokee’ yn ysgrifynedig.  Sylwais ar gerflun ohono ar fynedfa y Brifysgol. Mae yna tua 84 o symbolau gwahanol, sy’n edrych yn debyg i Tsheinieg neu i’r Siapaneieg.  Fe waneth y darluthwyr esbonio i ni fod myfyrwyr rhyngwladol o Tsheina  a Siapan oedd yn dueoddol o wneud y gorau mewn profion ac arholiadau iaith Cherokee, achod y tebygrwydd yn eu ieithoedd hwy.  Mae trefn o siarad yn Cherokee yn wahaol i’r Saesneg, a’n debycach i’r Gymraeg.  Mae strwythurau brawddegau yn hollol wahanol.
                  Cawsom ddysgu ychydig am y gorthrwm a dioddeddof yr Indiaid.  Llawer ohonoynt yn berthnasoedd pell i’n darluthwyr.  Roeddynt yn cael eu chwipio a’u cam-drin oes oeddynt yn siarad Cherokee. Redd ganddynt rhywbeth yn debyg i’n ‘Welsh Not’ ni a mi oeddwn yn syth yn medru teimlo empathi gyda’r pobl yma.  Aethon ymlaen i eistedd mewn dosbarthiadau Cherokee gyda’r myfyrwyr lleol.  Braf gen i weud fy mod wedi pigo i fyny rhai brawddegau yn barod.  Dyma flas ar yr iaith-
Siwmai –‘Osiyo’
Diolch – ‘Wad’o’
Mae chwant bwyd arnaf – ‘Agiyosi’a’
Rwyf wedi blino – ‘D’agi-yawega’
Iawn – ‘Hawa’
Na – ‘Tlv’
Rydw i eisiau – ‘Agw-aduli’
                  Roeddwn wedi siomi braidd nad oedd ganddynt gair i’r Cymry yn lle cyfeirio yn gyffredinol arnom fel ‘Ani Ayone’gv’ sef ‘dynion gwyn’, roeddwn yn mynnu cael enw ein hun!  Fe wanethont egluro mae’r ffordd orau i geisio gwneud hyn yw defnyddio beth yr ydym yn galw ein hun a trio dyfeisio fel mae’n cael ei alw yn Cherokee.  Mae ganddynt enw i’r Almaenwyr, Mae nhw’n galw eu hyn yn ‘Deutsch’ felly yn Cherokee bydde chi’n dweud ‘Ani Dach’i’ (Ani yn golygu llawer, yn cyfeirio at grwp o bobl, e.e mwy nag un Almaenwyr)  Felly fe wnaethom esbonio Mae Cymraeg yw ein hiaith, Cymru yw ein gwlad a Cymry yr ydym fel pobl.  Felly o nawr ‘mlaen, gobeithio gewn ni ein cofio am amser o ddyfeisio gair newydd ‘Ani Kyml’i’ dyna oedd y peth agosa’ gan nad oesganddynt ‘r’ yn eu wyddor.  ‘Cherokee’ yn iaith Cherokee yw ‘tsa lagi’ y ‘g’ yn cael ei ynghanu fel ‘k’.  Roeddwn yn hapus iawn i gael fy enw i wedi ei chyfieithu – Heulwen Haf, ‘Go gi agalis’gv’.  Dwi wrth fy modd yma yn dysgu am bopeth,rwy’n siwr byddaf wedi dysgu llawer erbyn ddiwedd y pythefnos.
Dydd Gwener Ebrill 5ed
                      Dyma ein diwrnod hamddenol, cawsom wers bore ‘ma a gweddill y diwrnod i fwynhau yn y haul gan fod penwythnos prysur o’n blaen.
Dydd Sadwrn Ebrill 6ed
                       Mae’n fore ddydd Sadwrn a’r tymheredd yn uchel!  Wedi gorfod rhoi eli haul ymlaen!  Hyfryd dianc o oerfel nol adre!  Aethon i safle treftadaeth y Cherokee i weld yr amgueddfa, lle ddysgom am hanes y Cherokee.  Dyma ychydig o bwt am eu hanes a chefais oddi ar safle wê Academi Hywel Teifi sy’n cynnig ychydig o wybodaeth (Pan laniodd y gwladychwyr Ewropeaidd cynnar yng nghyfandir Gogledd America yn y 15fed ganrif, un o’r llwythi brodorol cyntaf y daethant ar eu traws oedd Cenedl y Cherokee ar yr arfordir Dwyreiniol. Pan ddarganfuwyd aur yn nhalaith Georgia yn 1829 dechreuodd y gwladychwyr ddeisyfu mamwlad y Cherokee. Yn 1838, fe gasglwyd ynghyd mwy na 15,000 ddynion, menywod a phlant Cherokee a’i gorfodi i orymdeithio dros fil o filltiroedd i Diriogaeth Indiad newydd yn y de-orllewin, yr ardal a elwir nawr yn  Oklahoma. Bu farw dros chwarter y genedl yn y gwersylloedd caethiwedigaeth ac ar y daith a ddaeth yn adnabyddus fel ‘Di-ge-tsi-lv-sv-I’ sef ‘Llwybr y Ddagrau’. )
                            Roedd yna ystafell yn yr amgueddfa yn llawn cerfluniau o’r Indiaid yn gwneud y daith wedi eu paentio i gyd yn wyn, cawsom deimlad annifyr.  Mi oedd yr holl beth yn dod yn fyw i ni.  Roedd gweld gwynebau’r Indiaid, a’u cyrff newynog, eu gwynebau trist a chlywed y gwynt yn rhuo’n greulon yn gwneud i ni feddwl beth oedd y pobl yma wedi gorfod dioddef.   Mae nhw’n dweud hanes galw’r dref yn ‘Talequah’ (Tali’quah)oedd y geiriau cyntaf yn Cherokee i gael eu adrodd yn y lle yma, ag ystyr y geiriau oedd ‘Fe fydd hyn yn gwneud y tro’ yn cyfeirio at yr ardal fel lle i gael aros ac ymsefydlu ar ôl cymaint o amser yn cael eu erlid a’u cam-drin.
                                  Ar ôl camu allan o’r amgueddfa aethon allan i’r awyr agore i weld eu tai traddodiadol a phrofi sut oeddynt yn byw.  Teimlodd fel yr oeddem yn camu yn ôl mewn hanes, ac roedd y lle yn f’atgoffa fel Castell Henllys neu San Ffagan i weld sut oedd y hên Cymry yn byw.
                                Cawsom chwarae gêm traddodaidol o ‘Stickball’ ‘anejo’di’ sy’n cael ei gyfieithu fel ‘brawd bach y rhyfel’ sydd dros 500 mlwydd oed a chafodd eu creu gan yr Indiaid brodorol a mae dal yn cael ei chwarae heddiw gan ddynion, menywod a phlant. Mae’ ‘anejo’di’ modern yn cynnwys chwarewyr sy’n ceisio ymladd i ddal pêl fach, a’u daro ar dop postyn sy’n cael ei leoli yn y canol.  Gall y timau gynnwys nifer cyfartal, tuag at ddeg chwarewr yr un, a maen’t yn gorfod gweithio gyda’u gilydd i rhedeg a blocio i atal y tîm arall rhag sgorio. Yn wahanol i gêmau eraill, nid oes rhaid gwisgo unrhyw padiau nag helmed, felly gall fod braidd yn beryglus.  Cawsom ni gyfle i chware gyda rhai o’r menywod Indiaidd oedd yn gweithio yno a chawsom hwyl!  Roedden nhw’n esbonio fod y gêm yma yn cael eu gynnal yn aml cyn dawnsfeydd stomp ac mewn seremonïau traddodiadol eraill, ac mae'r llwyth Cherokee yn cynnal gemau bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Cherokee ym mis Medi. Er bod llawer o'r elfen ysbrydol wedi cael ei ddileu, gan golygu fod y gêm yn fwy o ddigwyddiad athletaidd, mae dal yn parhau i fod yn rhan bwysig o ddiwylliant traddodiadol y Cherokee.  Fe aethon allan ar daith o amgylch y Wlad i weld ychydig o Talequah yng nghar Les a gweld y gyfoeth o natur oedd yn cael ei gynnig.  Roeddem braidd wedi blino ar ôl y diwrnod a roeddem yn barod i’n gwelyau acedrych ymlaen at ddiwrnod prysur arall.
Dydd Sul Ebrill 7fed
                Dechreuodd y diwrnod a ninnau yn mynd yn syth i Barc Sequoyah i weld anifeiliad gwyllt a dysgu mwy o Cherokee wrth ddysgu enwau’r anifeiliaid gwahanol!  Mi welsom llawer o geirw ac roeddem yn edrych ymlaen yn arw i farchogaeth ceffylau. Doedd yna ddim ffordd orau o weld y Wlad ond gael marchogaeth trwy’r coed a’r bryniau!  Gwelsom ychydig o geirw eto yn cuddio yn y coed,  roeddem yn teimlo fel gwir cowbois!
            Teimlais yn flin i adael a fe fydden i wedi bod yn ddigon hapus i aros yna drwy’r dydd ond rhaid oedd mynd i’r lle nesa.  Cawsom ein gwahodd i dŷ rhieni rhywun arall oedd yn gweithio yn yr Adran addysg yn y Brifysgol oedd am ddangos casgliad o geir Americanaidd ei Thad.  Dywedodd bod ganddo deugain car! Deugain!! Ei enw oedd ‘Chuck’ ac mi werthodd ei dir flynyddoedd yn ôl ar gyfer adeiladu tai oedd yn egluro ei ffortiwn bach teidi!  Dangosodd ni o gwympas ei ‘gasgliad’, ac yn wir mi roedd fel amgueddfa!!  Ceir o bob lliw, siap a llun.  A trieni nad oed rhywun yn ysgrifennu y blog yma oedd a gwybodaeth ynglyn â cheir, ond yr unig beth fedrai dweud yw,  yr oedd yn arddangos werth ei weld!!  Ceir enfawr americanaidd, a phob un wedi cael ei bolisho fyny yn sgleiniog!  Mi oedd yna gar o’r 30au, 40au, 50au,60au,70au, 80au ac yn y blaen.  Mi oedd y rhestr yn ddi-ddiwedd!  Ond, fedrais ddim cuddio fy siom wrth weld nad oedd ganddo fan hipi traddodiadol VW!  Ond, pleser gen i weud fod gen i ddêl gyda filiwnydd yn awr, a mi wnaethodd addo y bydd ganddo un erbyn y tro nesaf i fi ymweld ag e!   Edrych ‘mlaen!  Roedd hefyd ganddynt llyn lle’r oedd yn bosib pysgota, anhygoel!  A dwi ddim hyd yn oed mynd i ddechrau disgrifio’r tŷ....ond byddai’r lle yna wedi medru bwydo gwlad.  Anhygoel fel y darperir arian yn y byd yma!  Ond, mi oeddynt yn bobl croesawgar iawn, jest cyfoethog, aruthrol o gyfoethog!  Andros o ryfedd yw’r byd yma.
                        Sôn am ryfedd, roedd gennym apwyntiad am 9pm y noswaith hynny i gael helfa ysbrydol yn y Brifysgol.  Mae’r Brifysgol yma yn enwog am storïau o bobl wedi gweld ysbrydion yn y lle.   Un ysbryd sy’n byw ar drydydd llawr y prif neuadd yw’r hên brif-athrawes – Mrs.Wilson.  Yn ôl hanes mi oedd wedi dyweddïo a’i chariad ond fe wnaeth e farw pan aeth bant ar daith, a fe wneth hi byth priodi ers ei golli.  Mae myfyrwyr yn dweud ei bod yn aros yn ei ffrog priodas wen o flaen y ffenest ar y trydydd llawr yn aros i’w chariad ddychwelyd.  Mae sôn hefyd fod hyd yn oed yr Heddlu lleol yn dweud wrth pobl ddim i boeni os maent yn gweld menyw mewn ffrog briodas ar y trydydd llawr, dim ond Mrs. Wilson sydd yno!  Mae yna gannoedd o storïau fel yma yn cael eu adrodd a mae’r Indiaid brodorol yn bobl ysbrydol o ran natur. Er yr holl straeon a cherdded drwy’r coridorau yn y tywyllwch, flin gen i weud na chwrddais i’r un ysbryd.  Ond dwi ddim am ddigaloni, mae gen i tua wythnos ar ôl yma!
   

Dydd Llun Ebrill 8fed
                  Doedd heddiw ddim wedi bod yn ddiwrnod prysur, ar ôl ein penwythnos yn gweld y Wlad, mi oedd yn neis fod nol yn y Brifysgol yn mynychu rhagor o wersi Cherokee, fe wnes i brynnu geiriadur ac ambell i lyfr yn gobeithio dysgu mwy.  Mae’r diwylliant yn hynod o ddiddorol!
             Fe gwelsom ffilm yn y nôs yn seiliedig ar y thema o Ysbrydion a sut aeth grŵp o Indiad brodorol o’r llwyth ‘Choctaw’ i hên ysgoel a oeddyn cael ei cam-drin a mi oeddynt yn credu iddynt glywed sgrechfeydd y merched ifanc yn galw am help hyd heddiw.  Bydden i byth yn mentro i fewn yno!
                            
Dydd Mawrth Ebrill 9fed
                     Dyma un o’r dyddiau mi oeddwn yn edrych ymlaen fwyaf iddynt.  Heddiw roeddem yn gweld yr Ysgol gynnradd Cherokee sy’n dysgu pobeth i’r plant yn eu hiaith brodorol.  Annodd medru cadw diwylliant ac iaith i fynd pan yn byw yng nghanol pwysau ieithyddol a diwylliannol yr Unol Daleithiau!  Roedd yna arwydd ar bwys y drws blaen yn dweud – ‘Gadewch eich Saesneg cyn dod mewn.  Siaredir ond Cherokee yma!’  Gawsom cwrdd y plant a’r Athrawon, fe wnaethom cyfathrebu yn Cherokee a’r Gymraeg.  Mi wnaeth y plant canu caneuon a dawnsiau traddodiadol y Cherokee i ni a chyflwyno eu hunain a gwnaethom yr un peth yn y Gymraeg.  Roedd gweld brwdfrydedd y plant a’u clywed yn siarad yr iaith hynod swynol yn brofiad!  Saesneg oedd iaith aelwyd rhai o’r plant felly yr unig Cherokee oedd yn cael dysgu oedd yn yr oriau ysgol, braf felly oedd gallu gweld sut oeddynt yn hyderus yn y ddwy iaith.  Dyw dysgu iaith arall ddim yn golygu aberthu iaith arall, mae ond yn eich cyfoethogi yn feddyliol, ieithyddol a diwyllianol a mae’n golygu eich bod yn medru deall a fod yn fwy sensetif tuag at ddiwylliannau eraill, rhai hyd yn oed yn bell o adre!  Dwi wedi dysgu llawer o fod yma a’n gwerthfawrogi fy mod innau yn medru’r Gymraeg a wedi bod yn hynod ffodus i dderbyn fy holl addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae Symposium yr Indiad Brodorol yn dechrau fory gyda’r Powwoww traddodiadol felly gobeithio ysgrifennai cyn bo hir yma i rannu fy mhrofiadau, gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen ychydig am ein profiadau yn dysgu am ddiwylliant y Cherokee – ‘Tsalagi.’  Hwyl am y tro!
Dydd Mercher Ebrill10fed
                        Thema ein diwrnod heddiw oedd cael dysgu ynglŷn a ‘Throchi Iaith’ – Beth yw trochi Iaith?  Pam mae’n bwysig?  Beth ydy’r gwahanol ffyrdd effeithiol o ‘drochi iaith’ a sut gallwn ni ddysgu ein Iaith drwy hynny.
                      Roeddwn yn cael mynychu gwersi trwy’r dydd yn sôn am y thema yma oedd yn rhan o ‘Symposiwm yr Indiad brodorol.’
                      Trochi iaith yw’r dull o ddysgu ail iaith i berson (er enghraiff:  Cherokee fel y Iaith Darget )trwy penodi’r ail iaith/iaith darget yma fel iaith cyfrwng addysgu yr ystafell ddosbarth. Drwy'r dull hwn, mae dysgwyr yn astudio pynciau ysgol fel Mathemateg, Gwyddoniaeth, Hanes, Cerddoriaeth neu unrhyw pwnc arall drwy’r ail iaith/iaith darget. Prif ddiben y dull hwn yw meithrin dwyieithrwydd, mewn geiriau eraill, i ddatblygu gallu cyfathrebu dysgwyr neu hyfedredd iaith yn ychwanegol at eu hiaith gyntaf neu frodorol.
                           Mae rhaglenni trochi yn amrywio o un wlad neu ranbarth i un arall oherwydd gwrthdaro ieithyddol, hanes iaith, polisi iaith neu farn gyhoeddus. Ar ben hynny, mae rhaglenni trochi yn cael eu gyflwyno ar wahanol ffurfiau yn seiliedig ar: amser dosbarth a dreulir mewn yr ail iaith/iaith darget, cyfranogiad a geir gan fyfyrwyr sy'n siarad iaith brodorol, oedran y dysgwyr, pynciau ysgol a addysgir yn yr ail iaith/iaith darget, a hyd yn oed yr ail iaith/iaith darget ei hun fel pwnc ychwanegol ac ar wahân.
                         Fel myfyrwraig dwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg, sy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg a wedi dysgu ychydig o Gatalaneg ar fy mlwyddyn tramor, roeddwn wrth fy modd!  Fe wnaethom ddysgu Catalaneg trwy’r dull yma, o’r eiliad y cerddom i fewn, roedd yr Athro yn siarad Catalaneg, a mi oeddwn yn dysgu trwy gweld lluniau,  tôn ei lais, ei ystumiau a’r ffordd oedd yn defnyddio ei osgo i bwyntio at bethau.  Ffordd hynod o ddefnyddiol a oedd yn ein gorfodi i feddwl heb ddibynnu ar ein Saesneg/Sbaeneg.  Dyna sut mae plant yn dysgu eu iaith gyntaf.
                      Fe ddysgom ‘Cherokee’ gyda dyn o’r enw ‘Yeda.’  Mi oedd yn medru siarad Sbaeneg, Saesneg a Cherokee a chawsom flas ar sut mae ei fyfyrwyr yn dysgu’r iaith.  Mi oedd yn bell iawn o eistedd mewn dobarth yn syllu ar lyfr neu fwrdd gwyn gyda chyfeithiadau, mi oedd yn debyg i ddosbarth actio.  Hynod o effeithiol.  Mi ddechreuodd gan chwifio ei law a dweud ‘Osiyo’, yn amlwg yn golygu ‘Helo!’  Fe ddysgodd geiriau syml i ni o wahanol bethau, gan godi pethau i fyny a phwyntio at bobl.  Roedd yn rhaid i ni gyd ganolbwyntio a chymryd ran! 
               Yn y nôs fe mynychon ni gynhadledd a oedd yn sôn am sut y potreadir y ddelwedd o ‘Indiaid Brodorol’ mewn gêmau a ffilmiau megis ‘Assasin’s Creed’, a sut mae gemau cyfrifiadur wedi cael eu dyfeisio i helpu ddysgu iaith a gweld pa mor effeithiol ydyn nhw.
Dydd Iau Ebrill 11fed
              Fe aethon i ragor o gynhadleddau iaith ar ôl dygu am wahanol ffyrdd o ddysgu iaith ddoe.    Fe wnaethon nhw ofyn i fi siarad ar y panel yn sôn am ddysgu ieithoedd trwy’r Gymraeg, fy mhrofiad o’r Ysgol a’r Brifysgol a fy mhrofiad yng Nghatalwnia.  Roedd yn brofiad gwych a byddaf yn trysori cyfle o gael medru cymryd rhan.  Doeddwn ddim cweit yn medru credu fy mod i ar y banel gan oedd gymaint o Ieithyddwyr proffesiynol yn dod o bobman.  Roedd un menyw yn eistedd wrth fy ochr yn cynrychioli ‘Prifysgol Hawaii’ a sut oedden nhw yn dysgu eu iaith.   Wrth fy ochr arall oedd dyn o lwyth y ‘Yuchee’.  Mi oedd yn hynod o drist yn ei glywed y siarad am sut cyn lleied o bobl oedd ar ôl yn siarad yr iaith, ond mi oedd yno rhyw dân ynddo a brwdfrydedd a chariaid at ei iaith oedd yn hynod ysbrydoledig!  Byddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth fel yma yn y dyfodol, yn cydweithio gyda pobl o bob cwr o’r byd iddatblygu ffordd gwahaol o ddysgu Ieithoedd.
                       Ar gyfer ymarfer yr hyn a oeddwn newydd ddysgu, mi oedd ynr haid i ni gyd rhannu mewn i grwpiau a dyfeisio ffyrdd newydd o ddysgu ein hiaith i grŵp newydd o bobl heb siarad Saesneg.  Roeddwn yn edrych ymlaen gymaint ond ychydig yn nerfus, mi oeddwn i ond yn 22 oed yn gorfod dysgu myfyrwyr yn hŷn.  Profiad swreal iawn oedd dyfeisio gêm  fwrdd ar gyfer Americanwyr a un dyn o Ffrainc i gael dysgu’r Gymraeg iddynt yn Oklahoma.  Fe benderfynnom ni wneud rhyw fath o gêm ‘nadroedd ac ysgolion’ lle oedd yn rhaid taflu’r deis a chamu o un bloc i’r nesa tra’n degnyddio’r Gymraeg.  Fe ddysgais iddynt brawddegau fel ‘Dy dro di.’ ‘Fy nhro i.’ Ysgrifennom ‘Un,Dau,Tri,Pedwar,Pump,Chwech’ ar y deis.  Roedd pawb yn gorfod gwneud siapiau allan o glai ar gyfer eu rhoi ar y bwrdd a’i pigo i fyny ar eu ffordd i’r llinnell terfyn.  Roeddynt yn dysgu enwau’r lliwiau gwahanol ac erbyn y diwedd yn creu rhestr siopiau o’r hyn oeddynt wedi casglu.  ‘Mae gen i gar coch, tŷ glas, pêl oren’ ac yn y blaen.  Llawer o hwyl wrth ddysgu iaith!
                       Yn y nôs ge gwanethom gwrdd ag artist o lwyth ‘Pawnee’ o’r enw ‘Bunky Echo-Hawk.’  Bydden i’n argymell edrych ar ei waith ar y wê.  Artist ifanc o Oklahoma yw e yn creu celf yn seiliedig ar ei weledigaeth gwleidyddol a’i gefndir frodorol.  Yn y cynhadledd, mi wnaeth e darn o waith o’r enw ‘Celf byw’ o flaen cynulleidfa mawr.  Dechreuodd gyda phapur plaen, ac wrth ymroddiad y cynulleidfa mi oedd wedi greu darn o gelf ardderchog!  Mi oedd yn cwestiynu beth yw e i fod yn Indiaid brodorol?  Beth mae’n olygu i chi fel unigolyn?  Fel cymdeithas?  Beth yw’r pethau sydd bwysicaf i chi, beth sydd angen ei wella.  Mi oedd yna llawer o bobl ifanc yn y cynulleidfa a mi oedd yn wych gweld person ifanc yn medru dylanwadu ar bobl yn eu harddegau am bwysigrwydd iaith a diwylliant!  Mae angen iddo ddod i Gymru!
Dydd Gwener Ebrill 7fed
                         Dyma diwrnod dechreuad y ‘Powoww’  sydd yn cyfateb i’n Eisteddfod ni.    Gŵyl llawn dawsnio, sŵn a lliw yn dathlu eu diwylliant.  Pob blwyddyn, mae miloedd o Indiaid Brodorol ar draws y wlad yn dathlu eu cysylltiadau i draddodiad ac ysbrydolrwydd, i'r Ddaear ac at eu gilydd, mewn cyfarfod cymdeithasol, personol ac ysbrydol: sef ‘Y Powwow’. I lawer, mae’r cyfarfodydd hyn yn rhan annatod o fodolaeth yr Americaniaid Brodorol. Mae Powwow yn ddigwyddiad o arwyddocâd cyfoes i'r unigolion a chymunedau sy'n cynnwys cannoedd o genhedloedd yr Americaniaid Brodorol.
                        Mae'r dawnsfeydd y ‘Powwow’ yn cynnwys dimensiwn personol cryf ac ysbrydol. Mae llawer o straeon a dehongliadau gwahanol ar gyfer pob dawns, yn dibynnu ar gefndir llwythol a theuluol. Er efallai y byddant yn wahanol o ran ffeithiau, maent i gyd  yn cael eu hystyried yn wir ... am y gall gwirionedd bodoli mewn sawl ffurf. 

                     Mae'r Powwow yn dechrau gyda'r ‘Mynediad Fawr’. Gofynnir i bob gwylwyr i godi wrth i'r baneri sy’n cynrychioli gwledydd, teuluoedd, a chymunedau cael eu gario. Wrth i gylch o bobl yn y canol dechrau chwarae’r drwm mawr, mae prif aelodau bob llwyth yn dod mewn i’r cylch.  Maent yn cael eu dilyn gan aelodau anrhydeddu eraill a'r cyn-filwyr. Yna, mae pobl ifanc sydd wedi cael eu dewis yn anrhydedd gan eu cymuned gartref penodol yn dilyn nesaf.  Dan arweiniad gan yr henoed, mae’r dynion yn dilyn nesaf, yn y drefn ganlynol: dawnswyr dynion traddodiadol, dawnswyr dynion glaswellt ac yna dawnswyr dynion ffansi. Yna mae’r merched yn mynd i fewn, o dan arweiniad hefyd gan y merched hynaf ac yn y drefn o ddawnswyr traddodiadol menywod, dawnswyr gwisg jingle ac yna dawnswyr siôl ffansi. Mae'r bechgyn yn eu harddegau fynd i mewn nesaf, wedi'i ddilyn gan y merched yn eu harddegau ac yna y bechgyn iau, merched a phlentyn bach. Mae'r dawnswyr ym mhob categori yn cael eu cyhoeddi gan y Pennaeth wrth iddynt basio'r gyhoeddi sefyll. Yn olaf, mae'r maes wedi ei lenwi gyda phob un o'r dawnswyr. Mae’r cyfrifoldeb am gynnal y gân yn mynd o drwm i drwm, yn mynd o amgylch y cylch nes bod yr holl dawnswyr yn y nghanol y cylch yn dawnsio. Gyda'r holl sy'n weddill yng nghanol y cylch, y gân gweddi ac anrhydeddu gân ar gyfer cyn-filwyr yn dechrau nesaf. Mae'n olygfa yn un llawn harddwch a chyffro a balchder
Dydd Sadwrn Ebrill 8fed
                               Mae’r Powwow yn para tan hanner nôs ac yntau yn gorfod gadael am wyth fore trannoeth.
                             Rydym yn mwynhau wrth weld cystadlu y   dawnsfeydd gwahanol yn cynnwys – ‘Dynion traddodiadol y Dynion’ ‘Dawns traddodiadol y Merched’ ‘Dawns glaswellt y Dynion’ ‘Gwisg ‘Jingle’ y Merched’‘Dawns Ffansi y dynion’ ‘Dawns Siôl Fancy Merched’.
                  Mae pobl yn dweud na allwch gael Powwow heb drwm, y drwm sy’n cario curiad calon y genedl Indiaidd. Dywedir hefyd iddo gario curiad calon y Fam Natur, ac felly yn galw y gwirodydd a chenhedloedd gyda'i gilydd.
                    Mae’r drwm Powwow yn sylfaen fawr a orchuddiwyd gan croen (byffalo, carw, neu fuwch). Mae wyth neu fwy o ddynion yn taro'r drwm yn unsain gyda morthwylion pren. Roedd y dynion wedyn yn cyfuno eu lleisiau gyda curiadau’r drwm i greu cân. Mae'r caneuon yn aml yn iath brodorol yr aelodau llwythol sydd o amgylch y drwm. Cyfrifoldeb aelodau’r drwm, ac yn enwedig y prif leisydd, yw gallu canu a chwarae beth bynnag fath o gân ei gofynnwyd amdano gan meistr y seremonïau neu'r cyfarwyddwr ar gyfer unrhyw ddigwyddiad penodol (hy codi baner, anrhydeddu seremoni, gwahanol fathau o dawnsfeydd).
              Dywedir fod y drwm yn cael ei ddwyn gerbron y bobl Indiaidd gan wraig, ac felly mae ysbryd menyw sy'n byw y tu mewn i'r drwm.  O achos hyn, y mae’n cael ei gael ei drin gyda pharch a gofal. Credir yn aml fod y drwm yn helpu uno'r ochr corfforol a meddyliol person.  Gyda llawer o bethau yn  niwylliant yr Indiaid, y drwm sy’n cael ei ddefnyddio i ddod â chydbwysedd i berson drwy eu cyfranogiad mewn dawnsio, canu neu wrando .
                    Roeddwn i wedi gwirioni gyda’r holl canu a dawnsio, ond un o’r pethau oedd gorau gen i oedd y gwisgoedd. Mor llachar a phrydferth! Mae pob un wedi cael eu addurno’n holl ofalus, mae gwisgoedd yr Indiaid brodorol yn fynegiant personol ac artistig iawn o fywydau y dawnswyr, teimladau, diddordebau, teulu ac cred ysbrydol. Yn aml, mae elfennau o'r gwisgoedd yn rhoddion oddi wrth yr henoed neu bobl gwerthfawr ym mywydau y dawnswyr ac maent i'w gwisgo gyda balchder a chyfrifoldeb. Mae'r gwisgoedd yn esblygu ac yn newid wrth i'r dawnsiwr esblygu a newid mewn bywyd. Bob tymor, mae newidiadau yn cael eu gwneud yn dibynnu ar y ffasiwn yr amser neu newid personol mewn blas ar ddillad. Nid oes unrhyw wahaniaeth wrth gyfuno elfennau hanesyddol gydag elfennau modern iawn!
                     Dyna’r ffordd orau i orffen unrhyw taith.  Wrth ddathlu a dathlu! 
Dydd Sul Ebrill 9fed
                         Dyma ni yn gorfod gweud hwyl fawr i Oklahoma L  Mae’n drist gorfod gadel y lle hudol yma!  Mae pawb wedi bod yn hynod croesawgar a wedi cael i ni deimlo mor gartrefol.  Dwi wedi dysgu andros o lot am eu diwylliant a’u ffyrdd o fyw a byddaf yn trysori’r profiad yma am byth!  Mae teithio i rywle ac ymgartrefu ymysg y bobl lleol yn rhoi ffordd newydd i chi edrych ar y byd,  Fe ddysgais hynny o fy mlwyddyn yng Nghatalwnia rwy’n ddiolchgar iawn am y profiadau yma.  Y gobaith fydd y ca i fentro i lefydd arall hefyd a dysgu mwy ar hyd y daith.  Gobeithio eich bod wedi cael blas ar ein antur ac wedi mwynhau dysgu am ein profiad.  Rwy’n argymell i chi fynd bant a gwneud yr un peth a ni.  Diolch am ddarllen, a diolch yn fawr iawn i Oklahoma ac i phawb a gwnaethom gwrdd ar hyd y daith. Rwy’n gobeithio i’w diwylliant a’u iaith parhau ar gyfer y dyfodol nesaf.  Wa’do Tali’quah! :D